Am ddysgu sut i adnabod a chofnodi bywyd gwyllt?
Beth am ymuno â ni am ddiwrnod cyffrous o adnabod a chofnodi bywyd gwyllt gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru yng Nghanolfan Treftadaeth Cardi Bach, Login ddydd Mercher 24 Gorffennaf 2024, 10yb – 3yp.
Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y bywyd gwyllt anhygoel o’n cwmpas. Byddwch yn cael cyfle i archwilio a darganfod technegau amrywiol ar gyfer cofnodi bywyd gwyllt yn eich ardal leol.
- Dewch â llyfr nodiadau a beiro/pensil i gofnodi unrhyw beth defnyddiol
- Dewch â dillad addas, ac esgidiau cadarn ar gyfer tywydd amrywiol Cymru! Efallai byddwn ni’n mynd allan am dro i gofnodi’r hyn byddwn ni’n ei ddarganfod yn yr ardal
- Dewch yn barod a lawrlwythwch ein ap neu cofrestrwch ar y wefan fel y gallwch chi fynd ati’n syth i gofnodi ar y diwrnod
- Lluniaeth ar gael am £3
- Croeso i bawb. Plant i fod yng nghwmni oedolion
Archebu yn hanfodol trwy Eventbrite:
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddysgu gan arbenigwyr a chyfrannu at ymdrechion cadwraeth lleol.
Wedi’i drefnu gan Gyngor Cymunedol Cilymaenllwyd ar y cyd â Phrosiect Adfer Llwybrau Troed Cilymaenllwyd.
Unrhyw gwestiynau – cilymaenllwydcc@gmail.com