Cymorth Ariannol

Gwahoddir cymdeithasau a sefydliadau lleol sy’n hyrwyddo bywyd cymdeithasol, iechyd a lles, amgylcheddol, ieithyddol neu ddiwylliannol yr ardal i ymgeisio am gymorth ariannol gan y Cyngor. 

I gael eich ystyried, cwblhewch y Ffurflen Cymorth Ariannol a chyflwynwch eich cais ar gyfer y cyfnod 2024/25 i cilymaenllwydcc@gmail.com erbyn dydd Gwener 22 Tachwedd 2024. Bydd ceisiadau yn cael eu hadolygu yng nghyfarfod mis Tachwedd y Cyngor.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cymorth pellach gyda’r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â ni ar cilymaenllwydcc@gmail.com