Grŵp Hanes Lleol Cilymaenllwyd

Ffyrdd o Fyw

Mae’r Grŵp Hanes Lleol wedi cael ei sefydlu fel rhan o Brosiect Adfer Llwybrau Troed Cyngor Cymuned Cilymaenllwynd yn nyffryn yr Afon Wenallt. Mae tri chyfarfod wedi cael eu cynnal i sefydlu’r grŵp a symud pethau ymlaen. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu ar ddydd Iau cyntaf y mis yng Nghanolfan ac Amgueddfa Treftadaeth Y Cardi Bach yn hen orsaf Login.

Penderfynwyd archwilio sut roedd pobl yn y gymuned yn byw ac yn gweithio o’r 1830au hyd heddiw, gyda phwyslais ar addysg, gwaith, addoli, iechyd a lles. Roedd y llwybrau troed a’r ffyrdd yn darparu ffyrdd byr ac uniongyrchol i’r capel, yr eglwys, lleoedd gwaith (ffermydd a chwareli), ysgolion gan gynnwys ysgolion Sul ac i orsaf Login.

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu strwythuro wrth i ddiddordeb mewn themâu ddatblygu. Teimlwyd hefyd ei bod yn gyfle pwysig i aelodau’r gymuned gwrdd, cymdeithasu a chyfnewid straeon a gwybodaeth leol o brofiadau eu teuluoedd eu hunain.

Cyfarfod 1 – 4/4/2024

Cytunwyd yn y cyfarfod cyntaf hwn fod mapiau’n bwysig ac rydym yn ffodus o gael archeolegydd lleol sydd wedi ymddeol i gynorthwyo. Mae yna gyfoeth o fapiau eisoes yng Nghanolfan Treftadaeth ac Amgueddfa Y Cardi Bach a llawer o ddata eisoes ar gael.

  • Cytunwyd â’r archeolegydd i ymchwilio i fapiau yn mynd nôl i 1830 a ddiffiniodd ardal plwyf Cilymaenllwyd. Maen nhw’n dangos pwysigrwydd y llwybrau a’r ffyrdd mewn perthynas â Chapel Calfaria a’r Eglwys (St John a St James gynt) yn Llandre a gorsaf reilffordd Login.
  • Mae yna nifer o hynafiaethau e.e. cromlech, caerau yn yr ardaloedd cyfagos. Bydd y rhain yn cael eu mapio a lle’n briodol, bydd y llwybr troed sy’n darparu mynediad sy’n gysylltiedig â llwybrau troed y prosiect yn cael ei nodi.
  • Bydd unrhyw arteffactau neu adeiladau sy’n cael eu darganfod yn y prosiect adfer llwybrau troed yn cael eu harchwilio ymhellach.

Trafodwyd hefyd drafod sut y gellid cofnodi atgofion, anecdotau a gwybodaeth leol.

Cyfarfod 2 – 2/5/2024

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn eto yn y prynhawn. Daethpwyd â nifer o eitemau diddorol i’r cyfarfod hwn a’u trafod.

  • Crynodeb o deitl Col Phillips o Gastell Dale i Ystâd Coedllys 1895. Rhentwyd llawer o eiddo, ffermydd yn Cilymaenllwyd o Ystâd Coedllys.
  • Dogfennau yn dangos pwysigrwydd datblygiad rheilffordd Y Cardi Bach i’r gymuned.
  • Lluniau o adeiladu pont Login.
  • Hanes Capel Calfaria.
  • Mapio hen eiddo lle roedd pobl yn gweithio ac yn byw. Melinau, gefeiliau gofaint, teilwriaid, tafarndai ac ati.
  • Siaradodd un cyfrannwr oedd yn bresennol am brofiad ei dadcu yn rhoi’r cylchoedd haearn ar olwynion cart yn Login.
  • Pwysigrwydd pŵer dŵr ar gyfer melinau, yn enwedig ar gyfer y melinau gwlân. Disgrifiwyd technegau lliwio organig.
  • Mwy o sgyrsiau gan arbenigwyr ar hanes pynciau lleol e.e. mwyngloddiau arian yn Llanfyrnach ac ansawdd stociau pysgod yn yr afonydd a nentydd lleol.

Gyda’r dyddiau’n ymestyn ac i gynorthwyo’r rhai yn gweithio, penderfynwyd cynnal y cyfarfod nesaf gyda’r nos.

Cyfarfod 3 – 6/6/2024

Fe wnaeth nifer dda fynychu’r cyfarfod hwn. Roedd gan aelod o’r gymuned fapiau o gyfnod y 1830au ac 1889 roedd wedi cael yn flaenorol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a rhannwyd y rhain yn y cyfarfod.

Rhannwyd straeon ac atgofion diddorol am y bobl leol oedd yn arfer gweithio ar reilffordd Y Cardi Bach. Recordiwyd rhai o’r rhain gyda chyfarpar recordio a fenthycwyd o Ganolfan Treftadaeth Y Cardi Bach.

Estynwyd croeso cynnes i berson oedd yn arfer byw yn yr ardal yn ystod ei phlentyndod. Roedd hi wedi gwneud tipyn o waith ymchwil eisoes ac mae’r wybodaeth hon ar gael i’r grŵp ac ar ei gwefan.

Ychwanegwyd straeon am bwysigrwydd yr ardal fel cyflenwr cwningod ar gyfer bwyd a hefyd am y digonedd o bysgod yn yr afonydd a’r nentydd a oedd yn ddiet iach.

Cafwyd hefyd ddisgrifiad diddorol o hanes plentyn ysgol o’r ardal.

Thema’r Cadeirydd oedd datblygiad golau, o ganhwyllau ym 1830 i fathau eraill o olau a thrydan erbyn heddiw. Cafwyd drafodaeth ynghylch dyfeisio paraffin ym 1830au, y Davey a lampau diogelwch eraill ar gyfer y diwydiant glo; dyfodiad lampau asetylen yn y 1860au (calsiwm carbid a dŵr) a’r cyflenwad trydan yn y pen draw i’r ardal.

Cytunwyd hefyd y byddem yn creu gwefan ryngweithiol ac yn trafod sut y gellir defnyddio’r hanesion a ddatblygir at ddibenion addysg.

Themâu a awgrymwyd:
Effaith y Dirwasgiad Mawr, y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, cyfnod yr ystadau mawr yn do di ben a ffermydd a chartrefi tenantiaid ac ati; y porthmyn, gwybodaeth y cyfrifiad, rhyddfreinio menywod.